Manteision Triniaeth Aromatherapi
Manteision Corfforol a Seicolegol Tylino Aromatherapi
delyth100@hotmail.com 07813 822335
1.
Wrth weithio ar y corff yn rhyddhau tensiwn o'r
cyhyrau mae'r meddwl yn rhyddhau cemegau positif e.e. "endorphins", sy'n llesol
i'r corff a'r meddwl.
2.
Mae'n rhoi hwb i'r system imiwnyddol wrth atal
yr ymateb straen (stress response).
3.
Wrth roi hwb i gylchrediad y corff mae mwy o
ocsigen a maeth ar gael i'r meinweoedd.
4.
Mae'n ysgogi'r system lymffatig i weithio'n
effeithlon i gael gwared â gwastraff. (Detoxifying)
5.
Mae'n hyrwyddo teimladau o les emosiynol ac yn
medru codi hwyliau.
6.
Wrth i'r corff ymlacio a chydbwyso mae lefelau
egni'r corff yn medru codi.
Triniaeth Aromatherapi
Yn ystod ymgynghoriad dewisir
cyfuniad o olewau hanfodol sy'n unigryw ar gyfer y client.
Os oes poen yn y cyhyrau mae olewau fel pupur
du, rhosmari a peppermint yn fuddiol.
Os
oes angen ymlacio'n feddyliol medrir defnyddio olewau fel bergamot, chamomile a
thus. Er yn ddrud iawn, rwy'n hoffi
defnyddio olew jojoba organig fel fy olew gludo. Mae'n addas i bob math o groen, yn dda i
weithio gydag ac yn golchi allan o'ch dillad.
Defnyddia dylino aromatherapi
symudiadau sy'n canolbwyntio ar lacio ac ymlacio'r cyhyrau yn dyner. Mae elfennau o dylino Swedaidd, ond ni
ddefnyddir symudiadau garw fel "hacking". Ceir elfennau o "acupressure",
draeniad lymffatig (lymphatic drainage), ymestyniadau ac adweitheg
(reflexology) yn y rhigolaeth.
Y nod yw i weithio ar fannau
sy'n dost ac o dan densiwn yn araf ac yn dyner.
Wrth dylino'r corff, arogli'r olewau hanfodol ac wrth iddynt gael eu
hamsugno i gylchrediad y gwaed drwy'r croen, mae'n bosib ymlacio'n gorfforol ac
yn feddyliol.
Heddiw rydym yn ymwybodol bod
safon ein hiechyd i raddau yn ddibynnol ar ein dull o fyw. Fel aromatherapyddd holistig rwy'n ceisio
edrych ar elfennau o fywyd yr unigolyn i weld os oes camau y maent yn medru ei
gymryd i wella ei hiechyd.
Yn syml mae 'na bedwar elfen i
edrych ar ôl ein hiechyd
1.
Diet - osgoi bwydydd wedi ei brosesi a bwyta
digon o lysiau a ffrwythau
2.
Symudiad - ymarfer corff a chadw'n actif
3.
Ymlacio - myfyrio, hobïau, triniaeth
aromatherapi
4.
Cwsg - cael digon o gwsg (er yn anodd pan fo
plant yn ifanc)
Rhaid canolbwyntio ar bob un
o'r elfennau uchod i gynnal neu i wella ein hiechyd. Hyd yn oed os ydych yn bwyta'n iach ac yn
cadw'n heini, bydd y corff dan straen os ydych yn gweithio'n galed ac ddim yn
clustnodi amser i ymlacio. Weithiai mae
rhywun yn gorflino ac o ganlyniad yn methu cysgu'n dda. Felly, er mor brysur ydym, rhaid gadw llygad
ar y balans o'r elfennau yma er mwyn cadw'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol.
Os ydych wedi bod am driniaeth aromatherapi, rhowch sylwadau ar sut mae'n eich helpi chi....
This post is very informative. I have learned a lot here, do share more.
ReplyDeleteBody massage tools
Massage tools
Increased blood circulation helps with poor circulatory problems and increases vascular health. Recovery times are reduced through better circulation and promote increases healing over areas of scars. 의정부 출장안마
ReplyDeleteThe post was really good and informative. Do share more.
ReplyDeletekey massage
what do massages help with
ReplyDeleteAt Kennington Osteopathic Practice in Oxford, we specialize in therapeutic massage to relieve stress and enhance well-being. Our expert team offers personalized treatments tailored to your needs, ensuring a rejuvenating experience. Discover the benefits of professional care with our trusted Massage Oxford
services. Book your appointment today!
This blog provides great insights into the benefits of aromatherapy. aroma body massage is truly a wonderful way to relax the mind and body while improving overall well-being. The combination of essential oils and gentle massage techniques can help relieve stress, enhance circulation, and promote better sleep. I appreciate the detailed explanation of its advantages. Looking forward to reading more informative posts on this topic!
ReplyDelete