Manteision Triniaeth Aromatherapi


Manteision Corfforol a Seicolegol Tylino Aromatherapi

delyth100@hotmail.com   07813  822335






1.    Wrth weithio ar y corff yn rhyddhau tensiwn o'r cyhyrau mae'r meddwl yn rhyddhau cemegau positif e.e. "endorphins", sy'n llesol i'r corff a'r meddwl.

2.    Mae'n rhoi hwb i'r system imiwnyddol wrth atal yr ymateb straen (stress response).

3.    Wrth roi hwb i gylchrediad y corff mae mwy o ocsigen a maeth ar gael i'r meinweoedd.

4.    Mae'n ysgogi'r system lymffatig i weithio'n effeithlon i gael gwared â gwastraff. (Detoxifying)

5.    Mae'n hyrwyddo teimladau o les emosiynol ac yn medru codi hwyliau.

6.    Wrth i'r corff ymlacio a chydbwyso mae lefelau egni'r corff yn medru codi.


Triniaeth Aromatherapi




Yn ystod ymgynghoriad dewisir cyfuniad o olewau hanfodol sy'n unigryw ar gyfer y client.  

Os oes poen yn y cyhyrau mae olewau fel pupur du, rhosmari a peppermint yn fuddiol. 

Os oes angen ymlacio'n feddyliol medrir defnyddio olewau fel bergamot, chamomile a thus.  Er yn ddrud iawn, rwy'n hoffi defnyddio olew jojoba organig fel fy olew gludo.  Mae'n addas i bob math o groen, yn dda i weithio gydag ac yn golchi allan o'ch dillad.



Defnyddia dylino aromatherapi symudiadau sy'n canolbwyntio ar lacio ac ymlacio'r cyhyrau yn dyner.  Mae elfennau o dylino Swedaidd, ond ni ddefnyddir symudiadau garw fel "hacking".  Ceir elfennau o "acupressure", draeniad lymffatig (lymphatic drainage), ymestyniadau ac adweitheg (reflexology) yn y rhigolaeth.

Y nod yw i weithio ar fannau sy'n dost ac o dan densiwn yn araf ac yn dyner.  Wrth dylino'r corff, arogli'r olewau hanfodol ac wrth iddynt gael eu hamsugno i gylchrediad y gwaed drwy'r croen, mae'n bosib ymlacio'n gorfforol ac yn feddyliol.

Heddiw rydym yn ymwybodol bod safon ein hiechyd i raddau yn ddibynnol ar ein dull o fyw.  Fel aromatherapyddd holistig rwy'n ceisio edrych ar elfennau o fywyd yr unigolyn i weld os oes camau y maent yn medru ei gymryd i wella ei hiechyd.

Yn syml mae 'na bedwar elfen i edrych ar ôl ein hiechyd

1.    Diet - osgoi bwydydd wedi ei brosesi a bwyta digon o lysiau a ffrwythau

2.    Symudiad - ymarfer corff a chadw'n actif

3.    Ymlacio - myfyrio, hobïau, triniaeth aromatherapi

4.    Cwsg - cael digon o gwsg (er yn anodd pan fo plant yn ifanc)

Rhaid canolbwyntio ar bob un o'r elfennau uchod i gynnal neu i wella ein hiechyd.  Hyd yn oed os ydych yn bwyta'n iach ac yn cadw'n heini, bydd y corff dan straen os ydych yn gweithio'n galed ac ddim yn clustnodi amser i ymlacio.   Weithiai mae rhywun yn gorflino ac o ganlyniad yn methu cysgu'n dda.  Felly, er mor brysur ydym, rhaid gadw llygad ar y balans o'r elfennau yma er mwyn cadw'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol.

Os ydych wedi bod am driniaeth aromatherapi, rhowch sylwadau ar sut mae'n eich helpi chi....

Comments

  1. This post is very informative. I have learned a lot here, do share more.

    Body massage tools
    Massage tools

    ReplyDelete
  2. Increased blood circulation helps with poor circulatory problems and increases vascular health. Recovery times are reduced through better circulation and promote increases healing over areas of scars. 의정부 출장안마

    ReplyDelete
  3. The post was really good and informative. Do share more.

    key massage
    what do massages help with

    ReplyDelete

  4. At Kennington Osteopathic Practice in Oxford, we specialize in therapeutic massage to relieve stress and enhance well-being. Our expert team offers personalized treatments tailored to your needs, ensuring a rejuvenating experience. Discover the benefits of professional care with our trusted Massage Oxford
    services. Book your appointment today!

    ReplyDelete
  5. This blog provides great insights into the benefits of aromatherapy. aroma body massage is truly a wonderful way to relax the mind and body while improving overall well-being. The combination of essential oils and gentle massage techniques can help relieve stress, enhance circulation, and promote better sleep. I appreciate the detailed explanation of its advantages. Looking forward to reading more informative posts on this topic!

    ReplyDelete

Post a Comment

Popular posts from this blog

Aromatherapy Massage - What is it all about?